Ymgynghori

Rydym ar gam cynnar yn y broses gynllunio a dylunio ac rydym am weithio gyda rhanddeiliaid lleol i greu datblygiad o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu nodweddion unigryw’r ardal.

Cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad, mae Premier Inn yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio yn unol â'r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i drigolion lleol, busnesau, sefydliadau a phartïon eraill â diddordeb ddysgu am y cynigion drafft a rhoi sylwadau a barn ar y cynigion. Mae eich adborth ar y cynigion yn bwysig er mwyn llywio'r cynllun a bydd yn ein helpu i lunio'r cynigion terfynol.

Mae'r holl luniadau, adroddiadau a dogfennau ategol drafft perthnasol ar gael i'w harchwilio o dan y dolenni isod:

Ymateb i'r Ymgynghoriad

Gall unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno sylwadau am y datblygiad arfaethedig hwn ddefnyddio'r ffurflen ymgynghori isod:

Ffurflen Ymgynghori

Os cewch unrhyw anawsterau gyda’r wybodaeth uchod neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynnig, e-bostiwch: [email protected]

Rhaid derbyn pob sylw erbyn 14 Hydref 2024 neu ni fyddant yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad na'r Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio a fydd yn cefnogi cais cynllunio yn y dyfodol.

Mae Premier Inn yn edrych ymlaen at glywed eich barn ar y cynigion.

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar:

Ebost: [email protected]